Senedd Cymru | Welsh Parliament
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision
Ymateb gan Comisiynydd y Gymraeg | Evidence from Welsh Language Commissioner
Gwyddom fod y buddsoddiad ychwanegol yn 2022-23 a 2023-24 wedi galluogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan) weithredu’n fwy dwys yn y sector ôl-16. Er enghraifft, mae wedi arwain at benodi mwy o ddarlithwyr ac aseswyr cyfrwng Cymraeg, a mwy o hyfforddiant Cymraeg i staff ac i fyfyrwyr. Er nad oes modd rhagweld beth yn union fydd effaith y penderfyniad i ail flaenoriaethu’r cyllid ychwanegol ar y niferoedd sy’n dysgu Cymraeg neu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n rhesymol dod i’r casgliad y bydd rhywfaint o’r gwaith uchod yn arafu neu ddim yn cael ei ddatblygu ymhellach. Mae hyn yn debygol o gael effaith andwyol ar ddatblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16.
Yn y cyd-destun uchod dylid pwysleisio bod datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 yn cychwyn o waelodlin hynod isel. Mae data diweddaraf am y sector addysg bellach (AB) a dysgu yn seiliedig ar waith (DSW) yn dangos rhywfaint o gynnydd yn y gweithgareddau addysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog (gweler atodiad 1 a 2). Er hyn, mae’r cynnydd cyffredinol yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn bennaf seiliedig ar gynnydd yn y gweithgareddau dysgu sy’n cynnwys ‘ychydig o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg’. Er na fyddem yn dymuno diystyru arwyddocâd y cynnydd hwn, rhaid pwysleisio bod angen sicrhau cynnydd yn y niferoedd sy’n astudio cyfran fwy sylweddol o’u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cyflawni amcanion polisi Cymraeg 2050.
Megis cychwyn mae’r gwaith o ehangu darpariaeth Gymraeg yn y sector AB a DSW, ac mae ffordd bell iawn i fynd. Mae’r gwaith o ehangu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sectorau hyn wedi bod yn dalcen caled dros y degawdau diwethaf, a does dim i awgrymu y bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos. Mae’n amlwg felly y bydd angen buddsoddiad sylweddol er mwyn cyflawni amcan polisi’r Llywodraeth mewn perthynas â darpariaeth Cymraeg ôl-16.
Mae ein hymchwil diweddar i farn a phrofiadau dysgwyr yn y sector ôl-16 yn amlygu’n glir y galw am addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn amryw gyd-destunau gan gynnwys mewn ysgolion. Mae dysgwyr yn falch eu bod yn gallu siarad Cymraeg ac yn ystyried yr iaith yn fantais ar gyfer eu rhagolygon gyrfaol. Mae’r ymchwil yn ategu’r angen i fod yn cynllunio’n rhagweithiol a beiddgar i ehangu darpariaeth Gymraeg, ac i fynd i’r afael a’r rhwystrau sy’n hwynebu dysgwyr ar hyn o bryd.
Wrth edrych i’r dyfodol mae’n gyfnod cyffrous i’r sector drydyddol gyda’r Comisiwn newydd wrthi’n cael ei sefydlu. Mae’n bwysig gosod y penderfyniad i ail-flaenoriaethu’r cyllid o £3.5 miliwn ochr yn ochr â’r gyllideb a’r dylanwad sylweddol fydd gan y Comisiwn i osod blaenoriaethau a chyfeiriad strategol newydd i’r sector drydyddol. Er bod tueddiad i ddisgwyl i gorff newydd o’r fath gynnig atebion i bob problem, mae’n amlwg bod cyfle yma i’r Comisiwn ddefnyddio’i bwerau rheoleiddio a chyllido er mwyn gweddnewid y graddau mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i’r sector drwyddi draw. Mae’r data yn dangos yn glir maint yr her, ac er mwyn gwneud cynnydd ystyrlon bydd angen prif-ffrydio’r Gymraeg i mewn i bob agwedd o gynllunio strategol, gan gynnwys yn benodol trefniadau cyllido darpariaeth a chynllunio gweithlu dwyieithog. Heb os, bydd arbenigedd y Coleg a’r Ganolfan yn hanfodol yn y cyd-destun hwn.
Atodiad 1: Gweithgareddau dysgu yn ôl cyfrwng y ddarpariaeth mewn addysg bellach, ac eithrio dysgu yn seiliedig ar waith
|
2014/15 |
2015/16 |
2016/17 |
2017/18 |
2018/19 |
2019/20 |
2020/21 |
2021/22 |
2022/23 |
Cymraeg yn unig |
0.1% 690 |
0.3% 1265 |
0.3% 985 |
0.2% 755 |
0.3% 880 |
0.3% 915 |
0.3% 890 |
0.1% 410 |
0.07% 250 |
Dwyieithog |
3% 13,730 |
2.3% 8,755 |
1.1% 3,875 |
2.9% 10,010 |
2% 6,810 |
2.7% 7,890 |
3% 9,005 |
2.6% 8,410 |
2.5% 8,355 |
Swm sylweddol o ddysgu drwy gyfrwng Cymraeg |
0.6% 2,810 |
0.8% 3,020 |
0.4% 1,570 |
0.7% 2,325 |
1.3% 4,425 |
1.0% 2,885 |
0.8% 2,405 |
1% 3,375 |
1.4% 5,185 |
Ychydig o ddysgu trwy gyfrwng Cymraeg |
3.5% 16,040 |
3.9% 15,145 |
2.8% 9,880 |
3.5% 12,160 |
5.3% 18,490 |
5.0% 14,690 |
6.8% 20,060 |
9.3% 30,410 |
10.5% 38,125 |
Saesneg yn unig |
92.8% 431,620 |
92.7% 355,530 |
95.4 337,680 |
92.7% 322,910 |
90.1% 313,190 |
90.3% 265,505 |
87.8% 259,380 |
86% 279,845 |
85% 308,690 |
Cymraeg a dwyieithog - cyfanswm |
7.2% |
7.3% |
4.6% |
7.3% |
8.9% |
9% |
10.9% |
13% |
14.5% |
Atodiad 2: Gweithgareddau dysgu yn ôl cyfrwng y ddarpariaeth mewn dysgu yn seiliedig ar waith
|
2014/15 |
2015/16 |
2016/17 |
2017/18 |
2018/19 |
2019/20 |
2020/21 |
2021/22 |
2022/23 |
Cymraeg yn unig |
0.3% 620 |
0.4% 685 |
0.3% 515 |
0.3% 520 |
0.4% 565 |
0.5% 675 |
0.8% 945 |
0.7% 750 |
0.6% 710 |
Dwyieithog |
3.4% 6,475 |
3.1% 5,045 |
3.2% 5,135 |
2.9% 4,850 |
2.9% 4,305 |
2.9% 3,620 |
3% 3,730 |
2.9% 3,065 |
3% 3,640 |
Swm sylweddol o ddysgu drwy gyfrwng Cymraeg |
0.2% 325 |
0.3% 415 |
0.3% 465 |
0.3% 530 |
0.3% 435 |
0.3% 380 |
0.4% 555 |
0.6% 595 |
0.5% 580 |
Ychydig o ddysgu trwy gyfrwng Cymraeg |
3.2% 6,110 |
4.7% 7,675 |
6.9% 10,945 |
6.7% 11,010 |
8.3% 12,355 |
9.3% 11,495 |
13.3% 16,525 |
19.5% 20,450 |
25.5% 30,325 |
Saesneg yn unig |
92.8 174,875 |
91.5% 148,665 |
89.3% 142,285 |
89.3% 147,775 |
88.1% 130,455 |
87.0% 107,850 |
82.5% 102,239 |
76.3% 79,810 |
70% 83,210 |
Cymraeg a dwyieithog - cyfanswm |
7.2% |
8.5% |
10.7% |
10.3% |
11.9% |
13.0% |
17.5% |
23.7% |
29.6% |
|
|
|
|
|